Gall bydwragedd helpu i fynd i’r afael â heriau iechyd cyhoeddus Cymru
By Helen Rogers - RCM Director for Wales on 06 November 2018 Maternity Services
Mae Adroddiad Gwasanaethau Mamolaeth y Wladwriaeth bob blwyddyn yn edrych ar y tueddiadau ‘darlun mawr’ sy’n digwydd ymhlith y gweithlu bydwreigiaeth.
Am y tro cyntaf eleni, mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn cyhoeddi adroddiad unigol ar gyfer pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig. Mae adroddiadau Lloegr a’r Alban eisoes wedi eu cael eu cyhoeddi, yr wythnos hon caiff adroddiad Cymru ei gyhoeddi – yn Gymraeg a Saesneg – mewn digwyddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd adroddiad Gogledd Iwerddon yn cwblhau’r gyfres yn fuan.
Rydym yn gweld nifer o dueddiadau defnyddiol yng Nghymru. Mae’r nifer y babanod a gaiff eu geni bob blwyddyn yn gostwng yn raddol, sy’n golygu bod y pwysau ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn lleihau fymryn bob blwyddyn. Yn wir, yn lleihau fymryn bob blwyddyn. Yn wir, yn 2017 gwelwyd gostyngiad o 2.3 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond mae’r genedigaethau cyffredinol wedi gostwng 10.5 y cant ers niferoedd uchel 2010. Mae gostyngiadau wedi bod yn weddol gyfartal ledled Cymru.
Mae nifer y bydwragedd yn cynyddu’n araf hefyd, cynnydd o 10.6 y cant ers 2009. Dylai’r ffigwr hwn barhau i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod yn dilyn y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu lleoedd hyfforddi 40 y cant yn 2017/18, cynnydd sydd wedi cael ei gynnal eleni hefyd.
Mae’n bwysig bod y cynnydd hwn yn cael ei gynnal gan fod proffil oedran bydwragedd yn dangos bod cyfran gynyddol yn y categorïau oedran hŷn, yn nesáu at ymddeol. Ym mis Mawrth 2011, er enghraifft, roedd ychydig dros chwarter y bydwragedd yng Nghymru yn eu pumdegau neu chwedegau (27.9 y cant). Erbyn mis Tachwedd 2017, roedd y ffigwr hwn wedi cyrraedd ychydig dros draean (34.5 y cant). Diolch byth, mae’r nifer yn eu hugeiniau a thridegau wedi cynyddu dros yr un cyfnod o 31.2 y cant i 37.2 y cant.
Rhaid i Gymru barhau i greu gwell cydbwysedd o ran proffil oedran y proffesiwn bydwreigiaeth, ac mae hyn yn golygu parhau i hyfforddi niferoedd da o fydwragedd bob blwyddyn.
Gyda gostyngiad yn nifer y genedigaethau a chynnydd yn nifer y bydwragedd, rydym yn gobeithio y bydd gwasanaethau mamolaeth mewn sefyllfa well i ddarparu gofal gwell i fenywod a babanod. Bydd hyn yn sicrhau bod preswylwyr diweddaraf Cymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a bod menywod yn derbyn y gofal y maent yn ei ddymuno ac yn ei haeddu.
Fodd bynnag, mae heriau yn parhau. Er bod y nifer o enedigaethau wedi gostwng ar y cyfan, er enghraifft, mae’r gostyngiad hwn yn berthnasol i fenywod dan 30 oed yn unig. Ym mhob grŵp oedran o fenywod sy’n rhoi genedigaeth dros 30 oed, mae genedigaethau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar. Ni fydd pob mam hŷn angen mwy o ofal na menywod iau, ond mae’n wir eu bod, ar gyfartaledd, angen mwy o ofal a chefnogaeth. Mae hyn yn golygu wrth i broffil oedran mamau fynd yn hŷn, y bydd angen mwy o fydwragedd.
Yn nhermau ysmygu a gordewdra, mae’r heriau iechyd cyhoeddus sy’n wynebu Cymru yn parhau. Mae dros chwarter o fenywod sy’n derbyn gofal mamolaeth yng Nghymru yn ordew, ac mae bron i un o bob pump yn ysmygu. Mewn rhai ardaloedd mae’r niferoedd yn uwch o hyd.
Mae’n bwysig cofio bod bydwragedd mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau iechyd cyhoeddus hyn sy’n bodoli ers blynyddoedd. Beichiogrwydd fydd y tro cyntaf mewn amser maith i nifer o fenywod dderbyn gofal gan y GIG, a gall fod y tro olaf iddynt ei dderbyn hefyd. Felly, mae’n gyfle perffaith i annog pobl i gymryd cam i’r cyfeiriad cywir o
ran eu hiechyd – i wella eu diet a’u helpu i roi’r gorau i ysmygu. Mae gan bob punt a fuddsoddir mewn gofal mamolaeth, recriwtio bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth y gallu i gael ei had-dalu drosodd a throsodd drwy welliannau yn iechyd y genedl.
Nid yw’r heriau sy’n wynebu Cymru mor ddu â’r rhai sy’n wynebu ardaloedd eraill. Nid ydym yn wynebu’r un prinder â Lloegr o 3,500 o fydwragedd, er enghraifft. Ond mae gennym heriau er gwaethaf hynny. Mae camau yn cael eu cymryd, ac mae hyn yn gadarnhaol, ond rydym angen parhau i wneud cynnydd oherwydd gall bydwragedd fod yn rhan bwysig o’r ateb i’r heriau iechyd cyhoeddus ehangach sy’n ein hwynebu yma yng Nghymru.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yn Saesneg YMA ac yn Gymraeg YMA.